Yn dilyn perfformiad da yn erbyn Aberystwyth B ym mis Tachwedd 2012 roedd colli y tro hwn yn ganlyniad siomedig iawn i Gwyddbwyll.com.
Dychwelodd Iwan Griffiths i chwarae ar Fwrdd 1 ac roedd ei Amddiffyniad Ffrengig mor gadarn ag arfer. Roedd yn chwarae yn erbyn y chwaraewr profiadol, Mathew Francis, ac wedi gêm agos a chwarae tactegol cytunodd y ddau chwaraewr i dderbyn gêm gyfartal.
Yn dilyn dechrau cyfartal ar Fwrdd 2 llwyddodd Owen Llywelyn i ennill mantais dros Tony Geraghty a bu ar y blaen am y rhan fwyaf o’r gêm. Collodd serch hynny wedi i’w wrthwynebydd osod trap a chipio dau ddarn tua diwedd y gêm – swindled yw’r term gwyddbwyll am golli fel hyn!
Roedd Emyr Llywelyn oedd yn chwarae gyda’r darnau du ar Fwrdd 3 a llwyddodd i gipio dau ddarn oddi ar ei wrthwynebydd a datblygu ymosodiad cryf gyda’i werinwyr. Cael a chael oedd hi, ond collodd yn y diwedd wedi James Corrigan frwydro nôl ar ddiwedd y gêm.
Doedd Tegwyn Jones ddim ar gael i chwarae i Gwyddbwyll.com, a’r canlyniad felly oedd 3½-½ i Aberystwyth B. Gallwch weld y gêmau isod, a llwytho ffeil pgn ohonyn nhw gyda sylwadau gan Rudy van Kemenade.
Bwrdd 1
Bwrdd 2
Bwrdd 3